Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Defnyddio meddyg teulu'r GIG yng Nghymru

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Ynghylch defnyddio meddyg teulu yng Nghymru

Mae eich meddyg lleol yn cael ei adnabod fel eich meddyg teulu (ymarferwr cyffredinol). Mae'ch meddyg teulu'n gallu darparu amrywiaeth eang o wasanaethau. Gall hyn gynnwys cyngor ar broblemau iechyd, archwiliadau corfforol, diagnosio symptomau, rhoi moddion ar bresgripsiwn neu driniaeth arall neu eich cyfeirio at wasanaethau arbenigol.

Mae'r dudalen hon yn sôn am eich hawliau pan fyddwch yn defnyddio gwasanaethau eich meddyg teulu. Mae hyn yn cynnwys:

sut i gofrestru gyda meddyg teulu
sut i gael triniaeth pan fydd y feddygfa ar gau
sut i newid eich meddyg teulu.

Mae rhagor o wybodaeth am eich triniaeth o fewn y GIG ar gael trwy Adviceguide a'r GIG ei hun.

Oes gennych chi hawl i gael meddyg teulu?

Os ydych chi fel arfer yn byw yn y DU, mae gennych chi hawl i gael eich cofrestru gyda meddyg teulu. Mae hyn yn cynnwys pobl o wledydd eraill yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) a thramor.

Os oes angen meddyg teulu arnoch tra byddwch oddi cartref yn y DU, gallwch ymweld â phractis arall. Os ydych i ffwrdd am fwy na 24 awr, gall unrhyw feddyg teulu eich trin fel claf dros dro. Mae'n syniad da ffonio'r feddygfa yn gyntaf i holi beth yw'r trefniadau. Mae'r manylion am feddygfeydd meddygon teulu yn yr ardal ar wefan Galw Iechyd Cymru yn: www.111.wales.nhs.uk.

Neu, gallwch gysylltu â Galw Iechyd Cymru dros y ffôn, ac mae'n bosib y bydd cynghorydd nyrsio yn gallu’ch helpu gyda'ch problem.

Os byddwch chi oddi cartref am 3 mis neu fwy, dylech gofrestru gyda meddyg teulu yn eich cyfeiriad newydd cyn gynted â phosibl.

I gael rhagor o wybodaeth am driniaeth y GIG i bobl o dramor, gweler ffioedd y GIG ar gyfer pobl o dramor.

Beth i'w ddisgwyl gan feddyg teulu

Mae pob practis meddyg teulu yn cynhyrchu taflen sy'n crynhoi'r gwasanaethau a'r gofal y gallwch eu disgwyl ganddyn nhw. Dylai'r daflen gynnwys nodi amseroedd aros y feddygfa, gwybodaeth am ymweliadau cartref ac unrhyw glinigau arbenigol a gynigir ganddyn nhw.

Os nad yw eich problem yn fater brys, bydd y rhan fwyaf o bractisau yn ceisio eich gweld o fewn deuddydd. Gall amseroedd aros newid yn dibynnu ar ba mor fawr yw’r feddygfa.

Yn ogystal â'ch cynghori ar faterion iechyd a salwch, efallai y bydd eich meddyg teulu yn darparu'r canlynol hefyd:

  • gwasanaethau atal cenhedlu
  • brechiadau
  • mân lawdriniaeth
  • gwasanaethau mamolaeth
  • brechiadau teithio
  • gwasanaethau arbenigol ar gyfer pobl ddigartref
  • gwasanaethau iechyd rhyw.

I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau mamolaeth y GIG, darllenwch Pa ofal iechyd y gallaf ei gael ar y GIG.

I gael gwybodaeth am wasanaethau iechyd rhywiol yn y GIG, darllenwch Pa ofal iechyd y gallaf ei gael ar y GIG.

Sut i ddewis meddyg teulu

Gallwch ddewis pa bractis meddyg teulu i gofrestru ag e. Does dim rhaid i'r meddyg teulu eich derbyn, ond os yw'n gwrthod, rhaid bod ganddo resymau da dros wneud hynny. Rhaid iddynt roi eu rhesymau yn ysgrifenedig i chi.

Gallwch ddefnyddio tudalen Chwilio am feddyg teulu Galw Iechyd Cymru i ddod o hyd i feddyg teulu yn eich ardal chi. Ewch i'r wefan: www.111.wales.nhs.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau meddygon teulu gan eich Canolfan gwasanaethau busnes lleol. Gallwch gysylltu â'ch canolfan gwasanaethau busnes ar y rhifau hyn, a gofyn am wasanaethau contractwyr.

Canolfan Gwasanaethau Busnes - Y Gorllewin a'r Canolbarth  (Abertawe)
Ffôn: 01792 458066

Canolfan Gwasanaethau Busnes - Y De-ddwyrain (Pont-y-pŵl)
Ffôn: 01495 332000

Canolfan Gwasanaethau Busnes - Y Gogledd (yr Wyddgrug)
Ffôn: 01352 700227

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y ganolfan gwasanaethau busnes ar eu gwefan yn: http://www.primarycareservices.wales.nhs.uk/home.

Sut i gofrestru gyda meddyg teulu

I gofrestru gyda meddyg teulu dylech gysylltu â'ch practis dewisol a gofyn am gael eich cynnwys ar eu rhestr cleifion. Fel arfer, byddan nhw'n gofyn i chi lenwi ffurflen yn y feddygfa, neu'n gofyn am eich cerdyn meddygol GIG. Mae hyn er mwyn gallu trosglwyddo eich cofnodion meddygol yno.

Os ydych chi wedi colli eich cerdyn meddygol y GIG dylech gysylltu â'ch Canolfan Gwasanaethau Busnes. Gallan nhw drefnu cerdyn arall i chi. Ond does dim angen cerdyn meddygol i gofrestru gyda meddyg teulu na chael triniaeth gan y GIG.

Does dim rhaid i holl aelodau'r teulu gofrestru gyda'r un meddyg teulu chwaith.

Os ydych chi'n aros yn rhywle yn y DU am lai na thri mis, gallwch ofyn am gael eich cofrestru gyda meddyg teulu dros dro. Hefyd, gallwch gofrestru gyda phractis lleol dros dro os ydych chi'n crwydro'r wlad a heb gartref parhaol.

Oni bai bod y gofrestr meddyg teulu'n llawn, neu os ydych chi'n byw'n rhy bell i gael ymweliadau cartref, go brin y bydd y meddyg teulu yn gwrthod eich cofrestru.

Os bydd meddygfa am wrthod eich cofrestru, rhaid bod ganddi resymau da dros wneud hynny. Ddylai hyn byth ymwneud â hil, rhyw, dosbarth cymdeithasol, oedran, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, golwg, anabledd neu gyflwr meddygol.

Os ydych chi’n credu bod y meddyg teulu wedi gwrthod eich cofrestru am unrhyw rai o'r rhesymau hyn, gall fod yn achos o wahaniaethu.

Rhifau GIG a chardiau meddygol y GIG

Byddwch yn cael cerdyn meddygol y GIG wrth gofrestru gyda meddyg teulu. Mae'r cerdyn yn cynnwys:

  • eich Rhif GIG
  • manylion eich meddyg teulu
  • gwybodaeth bersonol fel eich enw, eich cyfeiriad a'ch dyddiad geni.

Fel arfer, gofynnir i chi am eich cerdyn meddygol yn y GIG pan fyddwch yn cofrestru gyda meddyg teulu newydd. Os nad oes gennych un, fe gewch ffurflen i'w llenwi. Ar ôl i chi lenwi a dychwelyd y ffurflen, bydd eich awdurdod iechyd lleol yn trosglwyddo eich cofnodion meddygol i'ch meddyg teulu newydd. Bydd eich cerdyn meddygol yn cael ei bostio i'ch cyfeiriad cartref.

Mae eich rhif GIG yn unigryw i chi. Fe'i defnyddir i'ch adnabod ar draws gwahanol sefydliadau'r GIG. Mae rhifau GIG yn helpu staff ar draws y GIG i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd cleifion.

Os ydych chi'n cael trafferth dod o hyd i feddyg teulu

Os na allwch ddod o hyd i feddyg teulu i gofrestru, dylai'ch Canolfan Gwasanaethau Busnes allu eich helpu i ddod o hyd i bractis.

Dylech anfon:

  • eich cerdyn meddygol GIG
  • manylion unrhyw feddygon teulu sydd wedi gwrthod eich cofrestru
  • manylion unrhyw feddygon teulu y byddai'n well gennych beidio â chofrestru gyda nhw.

Bydd y Ganolfan Gwasanaethau Busnes yn ceisio dod o hyd i feddyg teulu sy'n barod i'ch derbyn. Ni fydd hwn o reidrwydd fydd eich meddyg teulu o'ch dewis.

Pan fydd y Ganolfan Gwasanaethau Busnes wedi penderfynu ar feddyg teulu, rhaid i'r meddyg teulu eich derbyn a'ch trin. Dim ond dan amgylchiadau penodol y gall meddyg teulu eich tynnu oddi ar ei restr.

Triniaeth gan feddyg teulu

Mae gennych hawl i gael triniaeth gan feddyg teulu yn y feddygfa lle rydych wedi'ch cofrestru. Fodd bynnag, does gennych chi ddim hawl i fynnu gweld meddyg penodol.

Mewn argyfwng, rhaid i feddyg teulu ddarparu unrhyw driniaeth sy'n angenrheidiol ar unwaith. Rhaid iddyn nhw ddarparu hyn hyd yn oed os nad ydych wedi cofrestru gyda nhw.

Pethau i’w hystyried wrth fynd at eich meddyg teulu

Pan fyddwch yn ymweld â'ch meddyg teulu, mae'n syniad da mynd yno gyda chymaint o wybodaeth â phosibl. Bydd hyn yn helpu eich meddyg teulu i ddiagnosio eich cyflwr mor gyflym a chywir ag y gall. Gallai fod yn ddefnyddiol cadw cofnod o'ch symptomau, a mynd â hwn gyda chi. Gallai hyn helpu eich meddyg teulu i feddwl beth allai fod yn achosi eich symptomau.

Efallai y byddwch yn poeni am fynd at eich meddyg teulu, yn enwedig os mai dyma’ch ymweliad cyntaf neu os nad ydych wedi bod ers sbel. Os bydd meddwl am fynd at y meddyg yn achosi straen i chi, beth am ysgrifennu unrhyw gwestiynau cyn eich ymweliad. Efallai y byddwch hefyd am gymryd nodiadau neu gofnodi'r sgwrs gyda'ch meddyg teulu er mwyn i chi allu gwrando arni'n ddiweddarach o gysur eich cartref. Mae'n syniad da siarad â'ch meddyg teulu am hyn cyn eich apwyntiad.

Os hoffech gael rhagor o gymorth, efallai y byddwch am fynd â ffrind neu berthynas gyda chi.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am eich iechyd, a phethau yr hoffech feddwl amdanyn nhw wrth weld meddyg, ar wefan Galw Iechyd Cymru yn: www.111.wales.nhs.uk.

Sut i gael triniaeth pan fydd y feddygfa ar gau

Mae'n rhaid i'ch meddyg teulu sicrhau bod gwasanaeth ar gael i chi pan nad yw ar ddyletswydd. Gallai'r canlynol ddarparu hyn:

  • partneriaid eraill mewn practis grŵp
  • rota rhwng meddygon teulu
  • gwasanaeth dirprwyo masnachol (locwm)
  • rhif ffôn y gall cleifion ei ddefnyddio y tu allan i oriau.

Os oes angen meddyg teulu arnoch pan fydd eich meddygfa ar gau, dylech ffonio’ch  meddygfa a gwrando ar y neges a recordiwyd. Bydd hyn yn rhoi manylion i chi am wasanaeth y tu allan i oriau eich meddygfa chi.

Eich Bwrdd Iechyd Lleol (BILl) sy'n gyfrifol am sicrhau bod y gwasanaeth y tu allan i oriau yn ddigon da. Os ydych yn anhapus â'r driniaeth a gawsoch gan y gwasanaeth y tu allan i oriau, dylech gysylltu â'ch Bwrdd Iechyd Lleol.

Os oes argyfwng, dylech ffonio 999 am ambiwlans, neu fynd i adran damweiniau ac achosion brys eich ysbyty lleol. Gallwch ddod o hyd i fanylion eich ysbyty lleol ar wefan Galw Iechyd Cymru yn: www.111.wales.nhs.uk.

Ymweliadau cartref gan eich meddyg teulu

Dylai fod gan eich meddyg teulu daflen sy'n dweud pryd mae'n ymweld â chartrefi fel arfer. Allwch chi ddim mynnu bod eich meddyg teulu yn ymweld â chi gartref. Bydd eich meddyg teulu yn penderfynu a fydd yn ymweld â chi gartref yn dibynnu ar eich cyflwr meddygol. Bydd hefyd yn penderfynu faint o frys sydd o ran ymweld â chi. Os ydych chi'n teimlo bod angen i'ch meddyg teulu ymweld â chi gartref, dylech ffonio'r feddygfa ac egluro’ch sefyllfa.

Os bydd eich meddyg teulu yn gwrthod ymweld â chi gartref a chithau’n ddifrifol wael wedyn, efallai y byddwch am wneud cwyn. Hwyrach bod eich meddyg teulu wedi bod yn esgeulus, neu wedi torri ei gontract gyda'r GIG.

I gael rhagor o wybodaeth am gwyno yn erbyn meddyg teulu, ewch i cwynion y GIG yng Nghymru.

Os cewch eich cyfeirio gan eich meddyg teulu neu ymgynghorydd ysbyty, efallai y bydd nyrs gymunedol yn ymweld â chi gartref. Os nad yw'n fater o frys, bydd y nyrs yn gwneud apwyntiad i ddod draw i’ch gweld.

Os ydych wedi cael babi'n ddiweddar, neu newydd gofrestru gyda'r meddyg teulu a bod gennych blentyn o dan 5 oed, efallai y bydd ymwelydd iechyd yn ymweld â chi yn eich cartref.

Os oes angen meddyginiaeth arnoch chi

Os bydd eich meddyg teulu yn penderfynu bod angen meddyginiaeth arnoch, bydd fel arfer yn rhoi presgripsiwn i chi. Gallwch fynd â'r presgripsiwn at fferyllydd a ddylai allu rhoi'r feddyginiaeth i chi. Mewn rhai achosion, er enghraifft, os yw'r feddygfa mewn ardal anghysbell, efallai y bydd eich meddyg teulu yn rhoi'r feddyginiaeth i chi'n bersonol.

Mae'n rhaid i'ch meddyg teulu gyflenwi unrhyw gyffuriau sydd eu hangen ar gyfer triniaeth mewn argyfwng.

I gael rhagor o wybodaeth am bresgripsiynau, gweler Taliadau'r GIG a gwerthoedd talebau optegol yng Nghymru.

A fydd rhaid i mi dalu i ddefnyddio gwasanaethau fy meddyg teulu?

Ni chodir tâl am driniaeth sylfaenol gan feddyg teulu ar gyfer cleifion y GIG sy'n byw yn y DU. Codir tâl i ymwelwyr tramor, ac eithrio mewn achos o argyfwng. Fodd bynnag, efallai y bydd eich meddyg teulu yn codi tâl arnoch am rai gwasanaethau, er enghraifft, archwiliadau ar gyfer cyflogeion neu frechiadau teithio dramor.

I gael rhagor o wybodaeth am daliadau meddygon teulu, gweler Taliadau'r GIG a gwerthoedd talebau optegol yng Nghymru.

Therapïau amgen

Mae rhai meddygon teulu wedi cymhwyso mewn therapïau amgen a gallan nhw gynnig y rhain fel rhan o'u triniaeth GIG. Mewn rhai ardaloedd, efallai y bydd meddygon teulu yn gallu cyfeirio cleient at ymarferwyr amgen, ond ni fydd hyn ar gael bob amser.

Cael ail farn

Gallwch ofyn i'ch meddyg teulu drefnu ail farn naill ai gan arbenigwr neu feddyg teulu arall. Fodd bynnag, nid oes rhaid i'ch meddyg teulu wneud hyn os nad yw'n credu ei fod yn hanfodol.

Os bydd eich meddyg teulu yn eich cyfeirio am ail farn, allwch chi ddim mynnu gweld meddyg penodol. Fodd bynnag, ddylen nhw ddim eich cyfeirio at rywun nad ydych am ei weld.

Does gennych chi ddim hawl i ail farn, ond mae gennych chi'r hawl i weld meddyg teulu sy'n gallu ymdrin â'ch sefyllfa chi. Os bydd eich meddyg teulu yn gwrthod trefnu ail farn, efallai y byddwch am newid eich meddyg teulu

Os yw'ch meddyg teulu yn ansicr am ddiagnosis, fe ellid ei farnu’n esgeulus os na chawsoch eich cyfeirio at arbenigwr a'ch bod wedi dioddef o ganlyniad. Os ydych chi yn y sefyllfa hon, efallai y byddwch chi am wneud cwyn.

I gael rhagor o wybodaeth am wneud cwyn, gweler cwynion y GIG yng Nghymru.

Sut i newid eich meddyg teulu

Os penderfynwch eich bod am newid eich meddyg teulu, does dim rhaid i chi roi esboniad i'ch meddyg teulu presennol.

I newid eich meddyg teulu, cysylltwch â'r feddygfa rydych am symud iddi, a gofyn a fyddan nhw’n eich derbyn fel claf. Os byddan nhw’n cytuno i'ch derbyn,  bydd angen i chi roi eich cerdyn meddygol iddyn nhw neu lenwi ffurflen. Pan fyddwch wedi cofrestru gyda'r feddygfa newydd, bydd eich cofnodion meddygol yn cael eu hanfon atyn nhw.

Os na allwch ddod o hyd i feddyg teulu i gofrestru, dylai'ch Canolfan Gwasanaethau Busnes allu'ch helpu i ddod o hyd i bractis gwahanol. 

Ydy fy meddyg teulu yn gallu fy nileu o'i restr cleifion?

Mae rhai rhesymau pam y gallai'ch meddyg teulu orfod dileu'ch enw oddi ar y rhestr gleifion. Mae'r rhain yn cynnwys os byddwch yn symud o ardal y practis, neu wedi ymosod yn eiriol neu'n gorfforol ar rywun yn y feddygfa.

Fel arfer, dylech gael rhybudd ac esboniad cyn i hyn ddigwydd.  Er hynny, os ydych chi wedi ymddwyn yn dreisgar tuag at staff, gall eich meddyg teulu eich tynnu oddi ar ei restr ar unwaith.

Os ydych wedi'ch tynnu oddi ar restr meddyg teulu, efallai y byddwch am gwyno. Er enghraifft, efallai eich bod yn teimlo i chi gael eich trin yn annheg neu eich bod wedi dioddef gwahaniaethu. Efallai bydd cymorth i gwyno ar gael gan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am eich canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf, gan gynnwys rhai sy'n gallu cynghori trwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

I gael rhagor o wybodaeth am wneud cwyn, gweler cwynion y GIG yng Nghymru.

Mwy o wybodaeth  am wahaniaethu mewn iechyd a gofal

Os byddwch yn symud allan o ardal eich meddyg teulu

Os byddwch yn symud i gyfeiriad newydd, lleol, efallai y byddwch am aros gyda'ch meddyg teulu presennol. Dylech ofyn i'ch meddyg teulu a allan nhw barhau i drin ac ymweld â chi yn eich cartref newydd.

Gall eich meddyg teulu barhau i'ch trin os ydych chi wedi symud o ardal y feddygfa, ond mae'n rhaid iddyn nhw ddweud wrth y bwrdd iechyd lleol eu bod yn barod i barhau i ymweld a'ch trin.

Rhagor o gymorth

Adviceguide

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau a'ch gofal ysbyty yn y GIG yng Nghymru, ewch i Defnyddio gwasanaethau ysbytai'r GIG yng Nghymru.

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau ar draws gwasanaethau'r GIG yng Nghymru, gweler Hawliau cleifion y GIG yng Nghymru.

I gael rhagor o wybodaeth am y gofal iechyd sydd ar gael i chi ar y GIG, darllenwch Pa ofal iechyd sydd ar gael ar y GIG?

I gael rhagor o wybodaeth am wneud cwyn am ofal y GIG, gweler cwynion y GIG.

Galw Iechyd Cymru

Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau'r GIG yng Nghymru ar gael trwy Galw Iechyd Cymru: www.111.wales.nhs.uk.

Mae'r wefan yn rhoi cynnwys gwybodaeth am y canlynol:

  • gwasanaethau meddygol lleol, gan gynnwys sut i ddod o hyd i'ch deintydd, meddyg teulu, ysbyty neu fferyllydd agosaf
  • sut i ddewis yr ysbyty neu'r clinig gorau ar gyfer triniaeth neu lawdriniaeth benodol
  • clefydau a chyflyrau cyffredin fel diabetes, a chanllawiau i driniaethau cyffredin, fel gosod clun newydd
  • sut i gwyno am wasanaeth y GIG
  • sut i fyw bywyd iachach.

Hefyd, mae gan Galw Iechyd Cymru wasanaeth ymholiadau ar-lein nad yw'n argyfwng. Peidiwch â defnyddio'r gwasanaeth hwn os ydych chi neu rywun arall yn teimlo'n sâl neu'n dioddef symptomau - cysylltwch â Galw Iechyd Cymru neu’ch  meddyg teulu. Gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth ymholiadau ar-lein os oes gennych gwestiynau am iechyd. Ewch ar-lein, teipio'ch cwestiwn, a bydd arbenigwr gwybodaeth iechyd medrus yn ceisio ateb o fewn 2 ddiwrnod gwaith. Gallan nhw ateb ymholiadau am bethau fel:

  • cyflyrau cyffredin
  • gwasanaethau lleol y GIG
  • hawliau cleifion
  • byw'n iach.

Mae'r gwasanaeth dwyieithog ar gael ar-lein yn: www.111.wales.nhs.uk.

Gallwch gael cyngor cyfrinachol a gwybodaeth am broblemau iechyd a gwasanaethau dros y ffôn gan Galw Iechyd Cymru hefyd. Mae'n cynnig mynediad 24 awr i gyngor iechyd am ddim gan nyrsys profiadol. Bwriad y llinell yw eich helpu i ofalu amdanoch chi eich hun drwy gynghori ar y camau gweithredu nesaf, er enghraifft, p'un ai aros gartref a pha driniaeth y dylech ei chael, a oes angen ymweld â meddyg teulu neu fynd i'r ysbyty.

Dyma fanylion cyswllt Galw Iechyd Cymru:

Ffôn: 0845 46 47 (pob galwad a godir ar gyfradd leol)
Ffôn testun ar 0845 606 4647 neu RNID Typetalk ar 1 8001 0845 46 47.
Gwefan: www.111.wales.nhs.uk.

Gwybodaeth llywodraeth leol a chenedlaethol

Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am wasanaethau iechyd yma yng Nghymru. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am wasanaethau a'r newyddion iechyd a chyhoeddiadau diweddaraf ar wefan yr adran yn: www.llyw.cymru.

Byrddau Iechyd Lleol (BILl) sydd bellach yn gyfrifol am yr holl wasanaethau gofal iechyd yn eu hardal. Mae manylion cyswllt eich BILl ar gael ar wefan Iechyd yng Nghymru: www.wales.nhs.uk/cym.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.