Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Hawliau cleifion y GIG yng Nghymru

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Beth yw hawliau cleifion y GIG yng Nghymru

Fel claf y GIG, mae gennych hawliau sy'n para o ddechrau i ddiwedd eich triniaeth, pa bynnag wasanaeth y GIG gewch chi. Mae hyn yn cynnwys peidio â gwahaniaethu yn eich erbyn, y dylid cadw eich gwybodaeth yn gyfrinachol a'ch hawliau o ran rhoi caniatâd i driniaeth.

Mae'r dudalen hon yn cynnwys ystod eang o wybodaeth am eich hawliau ar draws gwasanaethau'r GIG. Mae hyn yn cynnwys:

Gwahaniaethu yn y GIG
Eich hawliau i wybodaeth
Cydsynio i driniaeth
Talu am driniaeth nad ydynt ar gael ar y GIG.

Mae rhagor o wybodaeth am eich triniaeth GIG ar gael ar Adviceguide. Mae hyn yn cynnwys defnyddio meddyg teulu'r GIG yng Nghymru a defnyddio gwasanaethau ysbytai'r GIG yng Nghymru.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i rhagor o gymorth.

Gwahaniaethu yn y GIG

Nid chaiff sefydliadau a phobl sy'n darparu gwasanaethau iechyd wahaniaethu yn eich erbyn ar sail eich:

  • oedran
  • anabledd
  • ailbennu rhywedd
  • beichiogrwydd a mamolaeth
  • hil
  • crefydd neu gred
  • rhyw
  • cyfeiriadedd rhywiol.

Os ydych chi'n cael eich trin yn annheg pan fyddwch chi'n derbyn gwasanaethau iechyd oherwydd pwy ydych chi, gall fod yn achos o wahaniaethu anghyfreithlon. Os ydych chi wedi profi gwahaniaethu anghyfreithlon, efallai y byddwch chi'n gallu gwneud rhywbeth amdano.

Mwy am wahaniaethu mewn gwasanaethau iechyd a gofal.

Eich hawl i gael gwybodaeth

Pan fyddwch yn defnyddio gwasanaethau'r GIG, rhaid i staff egluro pethau i chi mewn ffordd y gallwch ei ddeall a rhoi gwybodaeth sy'n berthnasol i'ch sefyllfa chi. Os ydych chi'n cael trafferth cyfathrebu, dylai'r staff fynd ati i sicrhau eich bod yn gallu deall. Gall hyn gynnwys darparu dehonglydd iaith, dehonglydd iaith arwyddion neu ddefnyddio eiriolwr.

Os nad yw'n gwneud hyn, er enghraifft wrth drafod eich triniaeth, efallai nad ydych wedi rhoi cydsyniad cywir i driniaeth.

Os na fydd darparwr gofal iechyd yn cymryd camau i gyfathrebu'n iawn â chi, gallech gwyno ei fod wedi gwahaniaethu yn eich erbyn. Gallai fod yn wahaniaethu ar sail hil os nad ydych chi'n deall yr hyn maen nhw'n ei ddweud gan nad ydych chi'n siarad Saesneg iaith gyntaf. Neu gallai fod yn wahaniaethu ar sail anabledd os nad ydych chi'n deall beth mae'n ei ddweud oherwydd eich anabledd.

Gallwch gwyno am wahaniaethu ar sail rhyw os ydych wedi gofyn am gyfieithydd o'r un rhyw â chi, a'r darparwr iechyd heb wneud hynny.

I gael rhagor o wybodaeth am wneud cwyn, gweler cwynion y GIG.

Gwybodaeth am wasanaethau'r GIG

Yn ogystal â gwybodaeth am eich triniaeth, mae gennych hawl i gael gwybodaeth fanwl am wasanaethau iechyd lleol. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am safonau ansawdd ac amseroedd aros hwyaf. Gallwch gael y wybodaeth hon gan feddyg teulu, Bwrdd Iechyd Lleol neu gyngor iechyd cymuned.

Rhaid i'r GIG beidio â gwahaniaethu yn eich erbyn wrth ddarparu gwybodaeth am wasanaethau'r GIG. Er enghraifft, rhaid i wybodaeth fod ar gael mewn fformatau sy'n hygyrch i bobl anabl.

Mae gwefan Fy Ngwasanaeth Iechyd Lleol yn cynnwys gwybodaeth am berfformiad gwasanaethau iechyd yma yng Nghymru. Mae'r wybodaeth ar y wefan mylocalhealthservice.wales.gov.uk yn cynnwys:

  • gwybodaeth am ysbytai, fel cyfraddau marwolaeth, cyfraddau heintiau gofal iechyd a chymarebau nyrsys
  • canlyniadau arolygon boddhad cleifion
  • dolenni i adroddiadau a data perfformiad a gyhoeddwyd yn lleol.

Eich hawliau i weld eich cofnodion meddygol

Fel arfer, mae gennych hawl i weld y rhan fwyaf o'r cofnodion iechyd a gedwir amdanoch. Mae gennych hawl i gael gwybod sut mae'r cofnodion yn cael eu defnyddio, pwy sy'n cael eu gweld a sut allwch chi drefnu i'w gweld.

Mae'r wybodaeth hon ar gael ar ffurf a phosteri mewn meddygfeydd a byrddau iechyd lleol. I gael rhagor o wybodaeth am sut i weld eich cofnodion iechyd, gofynnwch i'r sawl sy'n gyfrifol am eich triniaeth.

Hefyd, mae gennych hawl i weld adroddiad meddygol amdanoch gan ymarferydd meddygol sy'n gyfrifol am eich gofal parhaus. Gall fod yn feddyg teulu, ymgynghorydd neu unrhyw ymarferydd meddygol sydd wedi'ch trin yn y gorffennol. Er enghraifft, adroddiad a ysgrifennodd eich meddyg ar gyfer eich cyflogwr neu gwmni yswiriant.

Cofnodion Iechyd Unigol

Mae'r Cofnod Iechyd Unigol (y Cofnod) yn cael ei gyflwyno ledled Cymru.

Bydd y Cofnod yn darparu gwybodaeth gan bractisau meddygon teulu i wasanaethau brys lleol. Bydd y wybodaeth yn cynnwys manylion y claf:

  • meddyginiaeth gyfredol
  • cyflyrau iechyd
  • alergeddau
  • imiwneiddio
  • pwysedd gwaed
  • canlyniadau profion.

Dim ond gweithwyr iechyd proffesiynol sy'n gofalu'n uniongyrchol am y claf fydd yn gallu gweld y manylion hyn.

Bydd angen i chi roi caniatâd cyn y gall gweithiwr iechyd proffesiynol weld eich Cofnod Iechyd Unigol. Er hynny, bydd gweithwyr iechyd proffesiynol yn gallu gweld eich Cofnod os nad ydych chi'n gallu rhoi caniatâd.

Byddwch yn cael taflen am y Cofnod Iechyd Unigol o leiaf chwe wythnos cyn iddo gael ei gyflwyno yn eich ardal chi.  Mae'n cynnwys gwybodaeth am sut i optio allan o'r cynllun. Byddwch hefyd yn gallu gofyn am gopi o'r wybodaeth ar eich Cofnod, ond efallai y bydd yn angen talu ffi am hyn.

Mae mwy o fanylion am y Cofnodion Iechyd Unigol ar wefan GIG Cymru: www.wales.nhs.uk/cym.

Cydsynio i driniaeth

Rhaid i chi roi caniatâd cyn y gall unrhyw feddyg neu ymarferydd gofal iechyd eich archwilio neu roi triniaeth i chi.

Gallwch gael eich archwilio neu eich trin heb ganiatâd:

  • os ydych chi wedi'ch cadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, mewn rhai amgylchiadau
  • os yw eich bywyd mewn perygl, rydych chi'n anymwybodol neu'n methu egluro beth rydych chi eisiau - os ydych chi'n anymwybodol, bydd penderfyniadau am driniaeth yn cael eu gwneud er eich lles chi

Gallwch hefyd gael eich archwilio neu'ch trin heb ganiatâd os oes gennych glefyd y mae'n rhaid i ymarferydd gofal iechyd ddweud wrth eich cyngor amdano - clefyd hysbysadwy. Os oes gennych glefyd hysbysadwy neu'n cludo clefyd hysbysadwy, gallwch gael eich archwilio neu eich ynysu er mwyn diogelu'r cyhoedd, hyd yn oed heb eich caniatâd.

Weithiau bydd staff y GIG yn gofyn i chi lofnodi ffurflen yn dweud eich bod yn cydsynio i driniaeth. Gelwir hyn yn gydsyniad ysgrifenedig. Dro arall, gallwch ddweud wrth staff eich bod yn rhoi caniatâd i gael triniaeth.

Fel arfer, gofynnir i chi am ganiatâd ysgrifenedig ar gyfer y canlynol:

  • triniaeth sydd â risg neu sgileffeithiau difrifol
  • anesthetig cyffredinol
  • llawdriniaeth
  • rhai mathau o therapi cyffuriau.

Dylech gofnodi eich caniatâd yn eich nodiadau gyda gwybodaeth am yr hyn a eglurwyd gan eich gweithiwr iechyd proffesiynol. Dylai hyn ddigwydd p'un ai'ch bod yn rhoi caniatâd yn ysgrifenedig neu mewn unrhyw ffordd arall.

Cyn i chi roi caniatâd, mae'n rhaid i'r meddyg ddweud wrthych beth yw'r driniaeth, beth allai ddigwydd ac a oes unrhyw risgiau difrifol. Os nad ydych wedi derbyn y wybodaeth hon, efallai na fydd eich caniatâd yn ddilys, hyd yn oed os ydych wedi llofnodi ffurflen. Holwch eich meddyg os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich triniaeth ac os oes unrhyw beth yn eich poeni.

Dylai'ch meddyg barhau i gyfathrebu â chi am eich triniaeth ar ôl i chi roi caniatâd.

Hefyd, os ydych chi'n rhoi caniatâd ar gyfer un math o driniaeth, nid yw'n golygu eich bod yn rhoi eich caniatâd ar gyfer triniaeth bellach. Dylid gofyn i chi eto am eich caniatâd ar gyfer triniaeth bellach.

Hawl i wrthod triniaeth y GIG

Mae gennych hawl i wrthod unrhyw ymyriad corfforol gan staff y GIG. Gall hyn gynnwys llawdrinaethau a phigiadau, neu gymorth i wisgo. Pan fyddwch yn mynd at y meddyg, mae hyn fel arfer yn golygu eich bod yn cydsynio i gael archwiliad a thriniaeth. Fodd bynnag, ni allai'r meddyg weithredu yn erbyn eich cyfarwyddiadau penodol, felly dylech ddweud wrtho/wrthi am unrhyw driniaeth nad ydych ei heisiau.

Os oes nifer o driniaethau gwahanol y gellir eu defnyddio i drin eich cyflwr, dylech gael gwybodaeth amdanyn nhw. Fodd bynnag, ni allwch fynnu triniaeth benodol os yw'r meddyg neu'r meddyg ymgynghorol yn credu nad yw'n addas.

Efallai yr hoffech feddwl am yr hyn ddylai ddigwydd pe baech yn mynd yn rhy sâl i roi caniatâd i driniaeth feddygol. Gallech ystyried rhoi pŵer i rywun wneud penderfyniadau ar eich rhan. Atwrneiaeth Arhosol ar gyfer iechyd a lles personol yw’r enw ar hyn. Gallech hefyd ystyried nodi'n ysgrifenedig beth rydych chi ei eisiau. Yr enw ar hyn yw gwneud datganiad ymlaen law neu benderfyniad ymlaen llaw (a elwir hefyd yn gyfarwyddeb ymlaen llaw neu'n ewyllys byw).  

Efallai na fydd penderfyniad neu ddatganiad ymlaen llaw yn ddilys os nad yw'n ystyried newid yn yr amgylchiadau. Er enghraifft, efallai na fyddai menyw wedi dweud a ddylai ei phenderfyniad ymlaen llaw barhau i fod yn gymwys os bydd yn feichiog. Dylech ddiweddaru eich penderfyniad ymlaen llaw yn rheolaidd i adlewyrchu unrhyw newid posib yn eich amgylchiadau.

Gallwch benderfynu yn erbyn triniaeth cynnal bywyd, ond byddai'r penderfyniad hwn ond yn gyfreithiol-rwym i weithwyr gofal iechyd proffesiynol os yw'n bodloni gofynion cyfreithiol penodol.

Mae rhagor o wybodaeth am atwrneiaeth arhosol, a datganiadau neu benderfyniadau ymlaen llaw ar wefan Age Cymru yn www.ageuk.org.uk.

Os ydych chi'n ystyried gwneud penderfyniad ymlaen llaw, dylech drafod â chynghorydd profiadol, fel cyfreithiwr neu gynghorydd Cyngor ar Bopeth lleol. Cysylltwch â'ch swyddfa Cyngor ar Bopeth agosaf am gymorth. 

Mae gorfodi triniaeth arnoch yn erbyn eich ewyllys yn ymosodiad. Os byddwch yn dioddef ymosodiad, dylech gysylltu â'ch Bwrdd Iechyd Lleol neu'ch cyngor iechyd cymuned i wneud cwyn. Efallai yr hoffech gynnwys yr heddlu hefyd.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y Cyngor Iechyd Cymuned, gan gynnwys sut i gysylltu â nhw, drwy'r wefan: www.communityhealthcouncils.org.uk.

I gael rhagor o wybodaeth am wneud cwyn, gweler cwynion y GIG.

Cydsynio i arbrofion, ymchwil meddygol ac addysgu

Yn gyffredinol, mae'n rhaid i chi roi eich cydsyniad i feddyg wneud gwaith ymchwil arnoch chi.

Dylech gael gwybod am y gweithdrefnau, ac unrhyw risgiau sydd ynghlwm wrth hynny. Hefyd, dylech wybod bod croeso i chi dynnu allan o'r ymchwil ar unrhyw adeg. Dylai unrhyw ymchwil ddiogelu eich hawl i gyfrinachedd bob amser.

Gall pobl sydd heb alluedd meddyliol, hynny yw, pobl sy'n methu  gwneud penderfyniadau drostynt eu hunain, fod yn rhan o ymchwil hefyd. Fodd bynnag, bydd angen i'ch cynrychiolydd roi cydsyniad i'r ymchwil ar eich cyfer. Mae rheolau llym ynglŷn â hyn hefyd, ac mae'n rhaid pennu mesurau i sicrhau bod pobl yn ddiogel a bod gwybodaeth yn gyfrinachol.

Am fwy o wybodaeth am alluedd meddyliol, darllenwch Rheoli materion ar gyfer rhywun arall.

Mae gennych hawl i wrthod cymryd rhan mewn gwaith addysgu heb i hynny effeithio ar eich triniaeth. Os nad ydych am fod yn rhan o waith addysgu, rhowch wybod i'r ysbyty ymlaen llaw.

Plant a chydsyniad

Yng Nghymru, tybir bod unrhyw un dros 18 mlwydd oed yn oedolyn sy'n gallu rhoi caniatâd i driniaeth neu wrthod triniaeth. Hyn oni bai bod ffactorau eraill sy'n golygu na allant wneud eu penderfyniadau eu hunain.

Gall pobl ifanc 16 neu 17 oed hefyd roi caniatâd i'w triniaeth eu hunain. Does dim rhaid i riant neu warcheidwad roi caniatâd hefyd. Fodd bynnag, hyd yn oed os nad yw'r person ifanc yn dymuno cael triniaeth, gall llys orchymyn triniaeth dan amgylchiadau penodol. Gallai hyn ddigwydd os yw'r llys yn penderfynu mai dyma sydd orau er lles yr unigolyn neu er mwyn achub ei fywyd. Os na allai'r unigolyn roi ei ganiatâd ei hun, oherwydd ddiffyg galluedd er enghraifft, rhaid i riant neu warcheidwad roi caniatâd drosto.

Mae gan staff y GIG hefyd ddyletswydd gyfrinachedd i bobl ifanc 16 neu 17 oed, ac ni ddylent roi gwybodaeth i riant neu warcheidwad y person ifanc heb eu caniatâd.

Gall plant o dan 16 oed roi eu caniatâd eu hunain i driniaeth cyn belled y bernir eu deall yr hyn sydd dan sylw gan feddyg neu fwrdd iechyd lleol. Nid oes prawf cyffredinol ar gyfer penderfynu hyn, bydd yn dibynnu ar bob sefyllfa unigol.

Os nad oes gan blentyn dan 16 oed ddigon o ddealltwriaeth, mae angen caniatâd gan riant neu warcheidwad, neu drwy orchymyn llys, oni bai ei fod yn argyfwng. Os bydd plentyn o dan 16 oed sydd â digon o ddealltwriaeth yn gwrthod triniaeth, gellir parhau i roi triniaeth gyda chydsyniad ei riant neu warcheidwad neu drwy orchymyn llys.

Ni all pobl ifanc neu blant dan 18 oed roi eu caniatâd eu hunain i lawdriniaethau arbrofol a rhoddion gwaed, oni bai bod ganddyn nhw ddigon o ddealltwriaeth o'r hyn sydd dan sylw.

Os mai gward y llys yw'r plentyn, y llys sy'n penderfynu a yw'r driniaeth er lles pennaf y plentyn. Mae hyn yn golygu mai'r llys sydd â'r grym i wneud yr holl benderfyniadau am y plentyn - penderfyniadau a fyddai fel arfer yn cael eu gwneud gan rieni neu warcheidwaid, hyd nes y bydd gorchymyn sy'n caniatáu hyn yn cael ei newid. Mae hyn yn wahanol i orchymyn llys am driniaeth benodol. Fodd bynnag, os cafodd eich triniaeth ei chaniatáu gan y llys, dylech gael cyfle i amddiffyn yn y llys pam nad ydych chi eisiau triniaeth.

Os yw'r cydsyniad yn ymwneud ag ymchwil ac yn cynnwys plentyn o dan 16 oed, gall rhiant neu lys gydsynio ar eu rhan.

Gwrthod triniaeth i'ch plentyn

Bydd y camau a gymerir gan feddyg yn dibynnu ar faint o frys sydd ar y driniaeth. Gall ysbytai wneud cais i lys am benderfyniad ynglŷn â'r hyn sydd er lles gorau'r plentyn.

Pan fydd bywyd plentyn mewn perygl, mae hawl gan feddyg i wneud beth bynnag sydd ei angen i achub bywyd y plentyn. Os ydych chi neu warcheidwad naill ai'n methu â rhoi cymorth meddygol i blentyn, neu'n gwrthod caniatáu triniaeth yn afresymol, gallech gael eich erlyn am esgeulustod.

Triniaeth dramor

Mae hawl gan bobl sy'n byw yng Nghymru, mewn rhai amgylchiadau, geisio triniaeth yn un o wledydd eraill yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE), a ariennir gan y GIG.

Os ydych chi'n ystyried cael triniaeth feddygol dramor, mae'n bwysig deall sut mae'n gweithio a beth yw'r risgiau cysylltiedig. Os na ddilynwch chi'r gweithdrefnau cywir, efallai y byddwch yn gyfrifol am dalu costau'r driniaeth yn llawn maes o law.

Mae gwybodaeth am driniaeth yn yr AEE ar gael ar wefan Galw Iechyd Cymru yn www.nhsdirect.wales.

Talu am driniaeth nad yw ar gael ar y GIG

Ar gyfer rhai mathau o salwch, mae rhai triniaethau ychwanegol nad ydynt ar gael drwy'r GIG. Er enghraifft, efallai na fydd y driniaeth rydych chi'n ei chael ar y GIG ar gyfer rhai mathau o ganser yn cynnwys rhai cyffuriau ychwanegol am eu nhw'n rhy ddrud i'r GIG.

Yng Nghymru, mae pob bwrdd iechyd lleol yn gwneud ei reolau ei hun ynghylch a allwch dalu am y cyffuriau hyn eich hun a pharhau i gael gofal gan y GIG.

Os ydych chi'n meddwl talu am driniaeth ychwanegol eich hun, gallai hyn effeithio ar eich hawl i gael gofal gan y GIG. Holwch eich ysbyty i ddechrau cyn dechrau talu am unrhyw driniaeth neu ofal preifat ychwanegol.

Hawl i farw

Nid yw'r gyfraith ynghylch hawl yr unigolyn i farw yn glir iawn. Mae gennych hawl i wrthod neu stopio triniaeth unrhyw bryd, hyd yn oed os yw'n golygu y gallech farw. Fodd bynnag, ni all meddyg naill ai roi triniaeth i chi, neu beidio â rhoi triniaeth i chi, gyda'r nod o sicrhau neu gyflymu marwolaeth.

Os ydych chi'n poeni am gael triniaeth yn groes i'ch dymuniadau, cofiwch nodi hyn yn glir pan gynigir triniaeth i chi.

Efallai yr hoffech feddwl am yr hyn ddylai ddigwydd pe baech yn mynd yn rhy sâl i roi caniatâd i driniaeth feddygol. Gallech ystyried rhoi pŵer i rywun wneud penderfyniadau ar eich rhan. Atwrneiaeth Arhosol ar gyfer iechyd a lles personol yw hyn. Gallech hefyd ystyried nodi eich dymuniadau ar bapur. Gwneud datganiad ymlaen llaw yw hyn neu benderfyniad ymlaen llaw (a elwir hefyd yn gyfarwyddeb ymlaen llaw neu ewyllys byw).

Gallwch benderfynu yn erbyn triniaeth cynnal bywyd, ond byddai'r penderfyniad hwn ond yn gyfreithiol-rwym i weithwyr gofal iechyd proffesiynol os yw'n bodloni gofynion cyfreithiol penodol. Gall ysbytai wneud cais i lys am benderfyniad ynghylch beth sydd orau i'ch lles chi.

Mae rhagor o wybodaeth am atwrneiaeth arhosol, a datganiadau neu benderfyniadau ymlaen llaw ar wefan Age Cymru yn https://www.ageuk.org.uk/cymru/.

Mwy o wybodaeth am atwrneiaeth arhosol

Os ydych chi'n meddwl gwneud penderfyniad ymlaen llaw, dylech drafod â chynghorydd profiadol, fel cyfreithiwr neu gynghorydd Cyngor ar Bopeth lleol. Cysylltwch â'ch swyddfa Cyngor ar Bopeth agosaf am gymorth. 

Tynnu organau ar ôl marwolaeth

Oni bai eich bod wedi dweud nad ydych am i rannau o'ch corff gael eu defnyddio ar gyfer ymchwil neu eu rhoi i eraill ar ôl i chi farw, mae pwy bynnag sy'n gyfrifol am eich corff yn ôl y gyfraith, yn gallu caniatáu i roi organau. Eich cynrychiolydd personol fydd hwn fel arfer. Cyn tynnu organau, rhaid i staff meddygol fod yn gwbl sicr bod marwolaeth yr ymennydd wedi digwydd, a rhaid cyhoeddi tystysgrif marwolaeth.

Cymorth pellach

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau a'ch meddyg teulu yng Nghymru, ewch i defnyddio meddyg teulu'r GIG yng Nghymru.

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau a'ch gofal ysbyty yn y GIG yng Nghymru, ewch i defnyddio gwasanaethau ysbytai'r GIG yng Nghymru.

I gael rhagor o wybodaeth am y gofal iechyd sydd ar gael i chi ar y GIG, darllenwch Pa gofal iechyd sydd ar gael gan y GIG.

I gael rhagor o wybodaeth am wneud cwyn am ofal y GIG, gweler cwynion y GIG.

Galw Iechyd Cymru

Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau'r GIG yng Nghymru ar gael trwy Galw Iechyd Cymru: www.nhsdirect.wales.nhs.uk.

Mae'r wefan yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • gwasanaethau meddygol lleol, gan gynnwys sut i ddod o hyd i'ch deintydd, meddyg teulu, ysbyty neu fferyllydd agosaf
  • sut i ddewis yr ysbyty neu'r clinig gorau ar gyfer triniaeth neu weithdrefn benodol
  • clefydau a chyflyrau cyffredin fel diabetes, a chanllawiau i weithdrefnau cyffredin, fel gosod clun newydd
  • sut i wneud cwyn am wasanaeth GIG
  • sut i fyw bywyd iachach.

Hefyd, mae Galw Iechyd Cymru hefyd yn cynnig gwasanaeth ymholiadau ar-lein nad yw'n argyfwng. Peidiwch â defnyddio'r gwasanaeth hwn os ydych chi neu rywun arall yn teimlo'n sâl neu'n dioddef symptomau - cysylltwch â Galw Iechyd Cymru neu eich meddyg teulu. Gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth ymholiadau ar-lein ar gyfer cwestiynau iechyd. Ewch ar-lein, teipio eich cwestiwn, a bydd arbenigwr gwybodaeth iechyd medrus yn ceisio ateb o fewn 2 ddiwrnod gwaith. Gallant ateb ymholiadau am bethau fel:

  • cyflyrau cyffredin
  • gwasanaethau lleol y GIG
  • hawliau cleifion
  • byw'n iach.

Mae'n wasanaeth dwyieithog ac ar gael yn: www.nhsdirect.wales.nhs.uk.

Mae modd cael cyngor cyfrinachol a gwybodaeth am broblemau iechyd a gwasanaethau dros y ffôn gan Galw Iechyd Cymru hefyd. Mae'n cynnig cyngor iechyd am ddim gan nyrsys profiadol 24 awr y dydd. Y bwriad yw eich helpu i ofalu amdanoch chi'ch hun trwy roi cyngor ar y camau gweithredu nesaf, er enghraifft, a ddylech aros gartref a pha driniaeth i'w chymryd, a mynd at feddyg teulu neu i'r ysbyty.

Dyma fanylion cyswllt Galw Iechyd Cymru:

Ffôn: 0845 46 47 (pris pob galwad yn ôl y gyfradd leol)
Ffôn testun ar 0845 606 4647 neu galwch drwy RNID Typetalk ar 1 8001 0845 46 47
Gwefan: www.nhsdirect.wales.nhs.uk

Gwybodaeth am lywodraeth leol a chenedlaethol

Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am wasanaethau iechyd yma yng Nghymru. Mae gwybodaeth am wasanaethau a'r newyddion iechyd a chyhoeddiadau diweddaraf ar wefan yr adran yn: http://llyw.cymru.

Byrddau Ichyd Lleol(BILl) sydd bellach yn gyfrifol am holl wasanaethau gofal iechyd eu hardaloedd unigol. Mae manylion cyswllt eich Bwrdd Iechyd Lleol ar gael trwy: www.wales.nhs.uk/cym.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.