Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Coronafirws - beth mae’n ei olygu i chi

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Mae’r dudalen hon yn cael ei diweddaru’n rheolaidd wrth i gyngor y llywodraeth fod ar gael.

Mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud i’ch helpu chi i osgoi cael coronafirws. Mae yna hefyd bethau y gallwch chi eu gwneud i atal y firws rhag lledaenu os ydych chi’n meddwl bod gennych chi ef. 

Gallwch ddarllen mwy am symptomau coronafirws a sut i’w osgoi ar wefan y GIG.

Gallwch hefyd wylio fersiynau Iaith Arwyddion Prydain o gyngor y Llywodraeth ar wefan SignHealth

Gwiriwch a yw rhywbeth yn sgâm

Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n defnyddio ffynonellau gwybodaeth ddibynadwy yn unig o ran coronafirws.

Os ydych chi’n gweld negeseuon e-bost am coronafirws gan rywun nad ydych chi’n eu hadnabod, peidiwch â chlicio ar unrhyw ddolenni na phrynu unrhyw beth.

Peidiwch â rhoi arian na manylion personol i unrhyw un nad ydych chi’n ei hadnabod neu’n ymddiried ynddo/i - er enghraifft, os bydd rhywun yn curo ar eich drws ac yn cynnig helpu.

Gallwch wirio a yw rhywbeth yn sgâm

Os ydych chi mewn ardal sydd â chlo lleol

Bydd angen i chi ddilyn rheolau llymach os bydd cynnydd yn y bobl sy'n profi'n bositif am coronafirws yn eich ardal leol. Gelwir hyn yn cloi lleol. Gallwch wirio a oes cloi lleol yn eich ardal ar GOV.UK.

Os ydych chi mewn ardal gyda chloi lleol, dylech edrych ar y rheolau ar wefan eich cyngor lleol.

Dewch o hyd i wefan eich cyngor lleol ar GOV.UK. 

Cyfarfod â phobl

Nawr gallwch fynd allan a gadael eich ardal leol am unrhyw reswm.

Mae'r llywodraeth yn argymell eich bod yn cadw o leiaf 2 fetr i ffwrdd oddi wrth bobl nad ydynt yn aelodau o'ch cartref.

Gallwch chi gwrdd â phobl o 1 cartref arall os ydych chi y tu allan. Fel rheol ni allwch gwrdd â phobl o gartref arall y tu mewn.

Os byddwch chi'n cwrdd â phobl pan nad ydych chi'n cael gwneud hynny, gallai'r heddlu ddweud wrthych chi am fynd adref neu roi dirwy i chi.

Mewn rhai sefyllfaoedd gallwch gwrdd y tu fewn neu gwrdd â phobl o fwy nag 1 cartref. Gallwch hefyd ymuno i fyny gyda 1 aelwyd arall - gelwir hyn yn 'cartref estynedig'.

Gallwch ddarganfod mwy am gwrdd â phobl. 

Os yw'ch partner neu aelod o'ch teulu yn gwneud ichi deimlo'n bryderus neu dan fygythiad

Gallwch barhau i gael cymorth yn ystod y cyfnod hwn. Cysylltwch â sefydliad cam-drin domestig i weld pa wasanaethau sydd ar gael.

Gallwch hefyd wirio'r canllaw ar gadw'n ddiogel ar wefan SafeLives

Os ydych chi'n teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus

Mae'r llywodraeth yn argymell eich bod chi'n gwisgo mwgwd wyneb neu orchudd ar gyfer eich ceg a'ch trwyn.

Cymorth y gallwch ei gael

Mae’r llywodraeth hefyd wedi cyhoeddi dulliau eraill o sut maent yn helpu pobl.

Byddwn yn cyhoeddi cyngor newydd i’ch helpu chi i ddeall unrhyw newidiadau pan fyddant wedi’u cyhoeddi. Byddwn hefyd yn diweddaru ein cyngor presennol.

Mae’r cyngor hyd yn hyn yn cynnwys pethau fel:

  • Cael eitemau a gofal hanfodol os ydych yn ‘hynod o agored i niwed’
  • talu biliau, gan gynnwys eich rhent
  • cael eich talu os na allwch weithio oherwydd coronafirws
  • cael nodyn hunan-ynysu ar-lein os oes angen i chi brofi eich bod yn sâl.
  • mynd â’ch plant i’r ysgol os ydych chi’n weithiwr allweddol, er enghraifft os ydych yn gweithio yn y GIG, yr heddlu neu’n danfon bwyd.
  • gohirio neu ganslo trefniadau teithio

Cael help gan wirfoddolwr GIG

Efallai y gallwch ofyn i wirfoddolwr fynd i siopa i chi neu gasglu presgripsiwn. Er enghraifft, efallai y gallwch gael help os ydych chi:

  • yn sâl neu wedi'i anafu
  • anabl
  • yn feichiog
  • yn ddigon hen i gael pensiwn y wladwriaeth

Gallwch hefyd siarad â gwirfoddolwr ar y ffôn os ydych chi'n teimlo'n unig oherwydd eich bod chi'n hunan-ynysu. Nid oes rhaid i chi gael eich ystyried fel rhywun sy'n agored i niwed i siarad â gwirfoddolwr.

Gwiriwch a allwch gael help gan wirfoddolwr GIG ar wefan y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol. 

Os ydych chi’n agored i niwed oherwydd cyflwr meddygol

Rydych yn ‘hynod o agored i niwed’ os oes gennych gyflyrau meddygol - er enghraifft, os oes gennych asthma difrifol neu ganser.

Bydd y GIG yn cysylltu â chi os ydych yn ‘hynod o agored i niwed’. Byddent yn dweud wrthych sut i osgoi dod i gysylltiad â coronafirws. Gwelir hyn yn ‘cysgodi’.

Os ydych chi’n meddwl eich bod chi’n hynod o agored i niwed ond nad yw’r GIG wedi cysylltu â chi, cysylltwch â’ch meddyg teulu neu glinigwr ysbyty.

Os ydych yn cysgodi, mae'r llywodraeth yn dweud y dylech aros gartref ac osgoi cyswllt wyneb yn wyneb â phobl eraill tan o leiaf 16 Awst 2020. Gallwch wirio canllawiau'r llywodraeth ar beth i'w wneud os ydych chi am dreulio amser y tu allan.

Darganfyddwch fwy am gysgodi ac os ydych chi wedi’ch ystyried yn agored i niwed ar GOV.UK

Os oes angen help arnoch i gael gofal neu gyflenwadau hanfodol fel bwyd

Dylech gofrestru cyn  17 Gorffennaf 2020 i gael help os:

  • mae gennych gyflwr meddygol sy'n eich gwneud yn hynod o agored i niwed
  • mae'r GIG wedi eich cynghori i gysgodi

Dylech gofrestru cyn 17 Gorffennaf 2020. Dylech gofrestru hyd yn oed os nad ydych yn credu bod angen help arnoch.

Pan fyddwch chi'n cofrestru, efallai y cewch barseli bwyd gan y llywodraeth. Bydd y llywodraeth yn rhoi’r gorau i anfon parseli bwyd ar 31 Gorffennaf 2020. Efallai y byddwch hefyd yn cael mynediad â blaenoriaeth i ddosbarthu bwyd gan archfarchnadoedd - bydd hyn yn parhau ar ôl 31 Gorffennaf.

Gallwch chi gofrestru’ch hun neu rywun arall ar GOV.UK

Os ydych chi’n ofalwr

Gallwch chi fod yn ofalwr o hyd cyn belled nad oes gennych symptomau coronafirws.

Gwiriwch y canllawiau ar wefan Carers UK i ddarganfod pa gymorth sydd ar gael i chi.

Os oes angen i chi gymryd amser i ffwrdd o'r gwaith i ofalu am rywun sy'n cael gofal fel arfer mewn ffordd wahanol, darganfyddwch pa opsiynau sydd gennych chi.

Os oes gennych chi lai o arian oherwydd coronafirws

Gallwch wirio pa help y gallwch ei gael os na allwch dalu'ch biliau. Mae hyn yn cynnwys pethau fel eich morgais, biliau ynni, treth gyngor neu ddirwyon llys.

Gallwch hefyd ddarganfod beth i'w wneud os na allwch dalu'ch rhent neu os oes gennych broblemau gyda'ch cartref a rhentir.  

Cael budd-daliadau

Efallai y gallwch hawlio budd-daliadau neu gael mwy o arian os ydych chi eisoes yn cael budd-daliadau. Mae hyn yn cynnwys unrhyw dâl salwch statudol (SSP) y gallai eich cyflogwr ei roi i chi.

Gwiriwch pa fudd daliadau y gallwch eu cael.

Os ydych chi eisoes yn cael budd-daliadau, gwiriwch a yw'r llywodraeth wedi gwneud unrhyw newidiadau i'ch budd-daliadau.

Os nad oes gennych arian ar gyfer bwyd

Efallai y gallwch gael help gan fanc bwyd. Bydd angen i chi gael eich cyfeirio at y banc bwyd. Os rydych wedi cael ei chyfeirio, rydych chi'n dal i gael teithio i fanc bwyd - naill ai i chi'ch hun neu i rywun sy'n agored i niwed.

Darganfyddwch fwy am gael eich cyfeirio at fanc bwyd.

Os yw'ch plentyn fel arfer yn cael prydau ysgol am ddim oherwydd eich budd-daliadau, gallwch gael talebau bwyd neu archfarchnad tra’u bod i ffwrdd o’r ysgol. Mae hyn yn cynnwys yn ystod gwyliau haf 2020.

Darganfyddwch fwy am gael bwyd neu dalebau i'ch plentyn. 

Os ydych yn cysgu tu allan neu mewn lloches lle na allwch hunan-ynysu

Gelwir hyn yn 'cysgu ar y stryd'. Mae’r llywodraeth wedi dweud y dylid eich ystyried fel 'blaenoriaeth’. Dylai eich cyngor lleol eich helpu i ddod o hyd i rywle i aros, hyd yn oed os na fyddech fel arfer yn gymwys i gael help.

Gallwch gael help i wneud cais am gymorth digartrefedd gan y cyngor. 

Mynd i’r gwaith

Mae’r Llywodraeth wedi dweud y dylech fynd i’r gwaith os na ellir ‘gwneud eich gwaith o adref’. 

Cael eich gwneud yn weithiwr ar seibiant

Os yw'ch gwaith wedi cau neu os nad oes unrhyw waith oherwydd coronafirws, gallai'ch cyflogwr ddefnyddio'r cynllun Cadw Swydd Coronafirws i'ch talu. Gelwir hyn yn weithiwr ar seibiant/ weithiwr ffyrlo- ‘furloughed’.

Nawr gallwch ond cael eich gwneud yn weithiwr ar seibiant os: 

  • rydych chi eisoes wedi cael eich ffyrlo cyn 11 Mehefin 2020

  • rydych chi'n dychwelyd o absenoldeb mamolaeth, absenoldeb mabwysiadu, absenoldeb tadolaeth, absenoldeb rhiant a rennir neu absenoldeb profedigaeth rhiant

Darganfyddwch mwy am sut mae'r cynllun yn gweithio

Os ydych chi i ffwrdd o’r gwaith oherwydd eich bod chi’n hunan-ynysu 

Efallai y cewch dâl salwch statudol (SSP) os ydych chi’n dilyn arweiniad y llywodraeth i hunan-ynysu. Darganfyddwch fwy am hunan-ynysu ar GOV.UK

Gallech gael Tâl Salwch Statudol os:

  • mae gennych coronafirws neu symptomau coronafirws
  • mae gan rhywun rydych chi'n byw gyda coronafirws neu symptomau o coronafirws
  • rydych chi'n hunan-ynysu oherwydd bod y GIG wedi dweud wrthych eich bod wedi dod i gysylltiad â rhywun sydd â coronafirws
  • Mae’r GIG wedi anfon llythyr atoch yn eich cynghori i gysgodi oherwydd eich bod yn ‘agored i niwed’ – darganfyddwch fwy am gysgodi ar GOV.UK

Darganfyddwch fwy am gael Tal Salwch Statudol

Os ydych chi'n cysgodi oherwydd eich bod chi'n hynod o agored i niwed

Mae'r llywodraeth wedi dweud y dylech weithio gartref os gallwch chi. Os yw hyn yn anodd i chi, dylai eich cyflogwr helpu - er enghraifft, tra'ch bod chi'n cysgodi gallent:

  • rhoi rôl wahanol i chi

  • newid eich patrymau gwaith

Ni fyddwch yn gallu cael tâl salwch statudol (SSP) ar ôl 1 Awst os ydych chi'n cysgodi. Efallai y byddwch yn dal i allu cael SSP os na allwch weithio gartref ac nad yw'n ddiogel ichi fynd i'r gwaith. Bydd angen nodyn arnoch gan eich meddyg i'w roi i'ch cyflogwr.

Gwiriwch a allwch gael SSP. 

Darllenwch ganllaw'r llywodraeth ar gysgodi ar GOV.UK.

Os ydych chi'n ‘fregus’ ond ddim yn hynod fregus

Rydych yn ‘agored i niwed' os ydych yn 70 oed neu'n  hŷn, yn feichiog neu os oes gennych gyflyrau iechyd penodol - mae’n wahanol i fod yn hynod o agored i niwed. Efallai y bydd yn rhaid i chi weithio os ydych chi'n agored i niwed. Darganfyddwch a ydych chi wedi'ch ystyried yn agored i niwed ar GOV.UK.

  Os ydych chi am roi'r gorau i weithio, ni chewch Tal Salwch Statudol oni bai eich bod yn dilyn arweiniad y llywodraeth i hunan-ynysu.

Os ydych chi’n poeni am fynd i weithio oherwydd coronafirws

Os ydych chi'n poeni am orfod mynd i'r gwaith, mae yna bethau y dylai'ch cyflogwr eu gwneud i sicrhau eich bod chi'n ddiogel.

Os penderfynwch beidio â gweithio, efallai y bydd ffyrdd o dal gael eich talu.

Os ydych chi'n poeni am weithio a'ch bod chi'n feichiog neu'n anabl, efallai y bydd pethau eraill y mae'n rhaid i'ch cyflogwr eu gwneud.

Gwiriwch beth i'w wneud os ydych chi'n poeni am weithio.

Os oes gennych blant ifanc

Os oes angen i chi gymryd amser i ffwrdd i ofalu am eich plant, siaradwch â'ch cyflogwr. Darllenwch fwy am gymryd amser i ffwrdd i ofalu am blant.

Dim ond os byddant yn ddiogel y dylech adael eich plant gartref ar eu pennau eu hunain - gwiriwch ganllawiau'r llywodraeth ar adael plant ar eu pennau eu hunain. 

Mynd a’ch plant i’r ysgol

Mae ysgolion, meithrinfeydd a cholegau chweched dosbarth wedi cau i’r mwyafrif o blant. Byddant yn agor eto ar 29 Mehefin 2020. Gallwch wirio'r wybodaeth am ysgolion yn agor ar wefan Llywodraeth Cymru. 

Ar hyn o bryd, gallwch fynd a’ch plant i’r ysgol os ydych yn ‘weithiwr allweddol’. Mae hyn yn golygu bod eich swydd yn cadw gwasanaethau pwysig i redeg, fel y GIG, yr heddlu neu ddanfon bwyd. Gwiriwch a ydych chi’n weithiwr allweddol ar Gwfan Llywodraeth Cymru  GOV.UK 

Fe ddylech chi hefyd fynd â’ch plant i’r ysgol os ydyn nhw’n cael eu hystyried yn agored i niwed, er enghraifft os:

  • mae ganddynt weithiwr cymdeithasol
  • datganiad o anghenion arbennig ac mae'r cyngor lleol yn penderfynu ei bod yn ddiogel iddynt fynd i'r ysgol

Os nad ydych yn siŵr, gwiriwch os yw eich plentyn yn cael ei hystyried yn agored i niwed ar wefan Llywodraeth Cymru. 

Bydd yr ysgol yn dweud wrthych os oes angen i’ch plant fynd i ysgol wahanol. Os yw’r ysgol wedi cau, cysylltwch â’ch cyngor lleol - gallwch ddod o hyd i’ch cyngor lleol ar wefan Llywodraeth Cymru.

Gwiriwch gyngor y llywodraeth ar gau ysgolion ar gwefan Llywodraeth Cymru. 

Os na all eich plentyn fynd i'r ysgol

Gallwch wirio cyngor y llywodraeth ar ddysgu gartref ar wefan Llywodraeth Cymru. 

Efallai y bydd ysgol eich plentyn yn rhoi gwaith iddyn nhw ei wneud gartref ar gyfrifiadur neu ar-lein. Cysylltwch â'r ysgol os nad oes cyfrifiadur gyda mynediad i'r rhyngrwyd y gall eich plentyn ei ddefnyddio. Gallai'r ysgol:

  • rhoi mynediad i gyfrifiadur neu i'r rhyngrwyd i'ch plentyn
  • newid y gwaith y mae'n rhaid i'ch plentyn ei wneud

Os ydych chi’n bwriadu teithio dramor

Gwiriwch y sefyllfa yn y wlad rydych chi'n bwriadu teithio iddi. Gallwch ddarllen y canllaw teithio diweddaraf ar GOV.UK. 

Os ydych wedi trefnu gwyliau

Os oes gennych chi wyliau eisoes wedi’u harchebu mae’n werth gwirio canllawiau yr asiant teithio, cwmni hedfan neu ddarparwr gwyliau arall. Efallai y gallwch ail-archebu’ch gwyliau a mynd yn hwyrach yn y flwyddyn.

Darganfyddwch mwy am gael ad-daliad oherwydd coronafirws.

Gallwch hefyd gael gwybod beth i'w wneud os yw eich pecyn gwyliau yn cael ei ganslo. Os oes angen mwy o help, gallwch gael cyngor gan y gwasanaeth i ddefnyddwyr.

Os ydych chi’n dod i mewn i'r DU o dramor

Mae yna reolau arbennig os ydych chi'n bwriadu cyrraedd y DU. Mae hyn yn cynnwys a ydych chi'n dod yn ôl i'r DU ar ôl treulio amser dramor. Gwiriwch a oes rhaid i chi ddilyn y rheolau arbennig ar GOV.UK. 

Fel arfer bydd yn rhaid i chi lenwi ffurflen ar GOV.UK gyda manylion am ble y byddwch chi'n aros yn y DU.

Efallai y bydd yn rhaid i chi aros y tu mewn i'r cyfeiriad rydych chi'n ei roi ar y ffurflen am 14 diwrnod ar ôl i chi gyrraedd - gelwir hyn yn ‘hunan-ynysu’ neu ‘cwarantîn’.

O 10 Gorffennaf 2020, does dim rhaid i chi hunan-ynysu os ydych chi wedi bod mewn gwledydd sy'n cael eu hystyried yn ddiogel am y 14 diwrnod diwethaf - gwiriwch pa wledydd sy'n cael eu hystyried yn ddiogel ar GOV.UK. Bydd yn rhaid i chi lenwi'r ffurflen o hyd. 

Mae'r rheolau yn wahanol os ydych chi'n dod i'r DU o Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw. Ni fydd yn rhaid i chi lenwi'r ffurflen neu hunan-ynysu oni bai eich bod wedi teithio o rywle arall yn ystod y 14 diwrnod diwethaf.

Llenwi'r ffurflen

Rhaid i chi lenwi'r ffurflen ar GOV.UK gyda manylion y cyfeiriad lle byddwch chi'n aros yn y DU.

Y peth gorau yw llenwi'r ffurflen cyn i chi deithio - gallwch ei llenwi hyd at 48 awr cyn i chi gyrraedd y DU. Gallwch hefyd lenwi'r ffurflen pan gyrhaeddwch - bydd cyfrifiaduron y gallwch eu defnyddio.

Pan fyddwch chi'n cwblhau'r ffurflen, byddwch chi'n cael cadarnhad e-bost i'w argraffu neu ei ddangos ar eich ffôn. Bydd angen i chi ddangos y cadarnhad i swyddogion mewnfudo pan gyrhaeddwch y DU.

Os nad ydych wedi llenwi'r ffurflen, efallai y cewch ddirwy o £100. Os nad ydych yn ddinesydd Prydeinig neu dinesydd Gwyddelig, efallai na chaniateir i chi ddod i mewn i'r DU.

Hunan-ynysu am 14 diwrnod

Os oes rhaid i chi hunan-ynysu, rhaid i chi aros yn y cyfeiriad rydych chi'n ei roi ar y ffurflen.

Gallwch ond gadael y cyfeiriad am resymau penodol, gan gynnwys:

  • cael pethau'n sylfaenol fel bwyd, meddyginiaeth neu gyflenwadau anifeiliaid anwes - os na allent gael eu danfon.
  • cael cymorth meddygol - os yw'n fater brys neu os yw'ch meddyg wedi dweud wrthych am gael help
  • mynd i angladd perthynas agos
  • os oes argyfwng - er enghraifft os nad yw'n ddiogel aros y tu mewn

Rhaid i chi beidio â chwrdd â neb heblaw'r bobl rydych chi'n aros gyda nhw.

Os nad ydych chi'n hunan-ynysu, efallai y cewch ddirwy o £ 1,000.

Os oes angen i chi symud i gyfeiriad gwahanol yn y 14 diwrnod, rhaid i chi lenwi ffurflen newydd ar GOV.UK. 

Gallwch wirio'r rheolau ar hunan-ynysu ar GOV.UK. 

Os ydych chi’n meddwl nad yw siopau’n gweithredu’n deg

Gall siopau a busnesau godi eu prisiau os ydyn nhw eisiau. Os ydych chi wedi sylwi bod pethau'n costio mwy na'r arfer, bydd angen i chi benderfynu a ydych chi am dalu am yr eitem ai peidio.

Gallwch roi gwybod i Safonau Masnach os ydych chi'n meddwl eu bod nhw: 

Efallai na fydd Safonau Masnach yn ymateb i'ch cwyn.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.