Cynllun Helpu Dŵr Cymru – help i dalu biliau dŵr
Os ydych chi’n cael help trwy gynllun HelpU Dŵr Cymru, bydd terfyn uchaf yn cael ei roi ar eich bil dŵr. Felly fyddwch chi ddim yn talu mwy na chyfanswm penodol am y flwyddyn.
Os oes gennych chi fesurydd dŵr a bod y gost yn is na swm HelpU Dŵr Cymru, bydd eich bil yn cyfateb i’r darlleniad ar eich mesurydd. Fel arall bydd terfyn isaf yn cael ei roi ar eich bil ar lefel HelpU Dŵr Cymru.
Ydych chi’n gymwys ar gyfer cynllun HelpU Dŵr Cymru
Byddwch chi’n addas os yw’r ddau isod yn berthnasol i chi:
- rydych chi neu rywun sy’n byw gyda chi yn cael rhai budd-daliadau penodol
- mae incwm blynyddol eich aelwyd yn llai na chyfanswm penodol
Dyma’r budd-daliadau sy’n eich gwneud chi’n addas
Rhaid eich bod chi neu rywun sy’n byw gyda chi yn cael un o’r budd-daliadau canlynol:
- Credyd Cynhwysol
- Credyd Pensiwn
- Lwfans Ceisio Gwaith seiliedig ar incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth seiliedig ar incwm (ESA)
- Cymhorthdal Incwm
- Budd-dal Tai
- Gostyngiadau’r Dreth Gyngor
- Credydau treth
Faint ddylai incwm eich aelwyd fod er mwyn i chi fod yn gymwys
Rhaid i incwm blynyddol eich aelwyd fod yn llai na swm penodol – mae hyn yn seiliedig ar faint o bobl sy’n byw gyda chi.
Eich aelwyd |
Uchafswm incwm eich aelwyd |
Rydych chi’n byw ar eich pen eich hun |
£8,900 |
Rydych chi’n byw gydag un person arall |
£13,400 |
Rydych chi’n byw gyda dau berson arall neu ragor |
£15,300 |
Mae rhestr ar wefan Dŵr Cymru o’r mathau o incwm y maen nhw’n eu cyfrif yn incwm aelwyd. Bydd angen i chi ddweud wrthyn nhw am eich incwm pan fyddwch chi’n gwneud cais.
Gwneud cais am gynllun HelpU Dŵr Cymru
I wneud cais am gynllun HelpU Dŵr Cymru gallwch:
- lenwi’r ffurflen gais ar-lein neu
- lawrlwytho ac argraffu’r ffurflen - wedyn ei llenwi a’i hanfon drwy’r post
Os ydych chi angen help i wneud eich cais gallwch:
- ffonio neu fynd i weld eich Landlord Cymdeithasol Cofrestredig, os oes gennych chi un, neu
- cysylltu â’ch Canolfan ar Bopeth agosaf
Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth eich bod yn gymwys, fel slip cyflog, neu gopi o hysbysiad budd-daliadau.
Pryd fyddwch chi’n dechrau cael help
Byddwch yn dechrau cael help o gyfnod cychwynnol y bil pan wnaethoch chi eich cais.
Os bydd eich gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth yn cael eu darparu gan gwmnïau gwahanol, dylai’r cwmni dŵr ddweud wrth y cwmni carthffosiaeth eich bod yn derbyn cymorth. Wedyn dylai’r cwmni carthffosiaeth addasu eu prisiau.
Efallai y bydd rhaid i chi ddangos tystiolaeth bob blwyddyn eich bod yn parhau i fod yn gymwys i gael help. Bydd Dŵr Cymru yn dweud wrthych chi pryd fydd angen i chi wneud hyn.
Os ydych chi’n credu nad ydych chi’n gymwys i gael help mwyach
Os ydych chi’n credu nad ydych chi’n addas i gael help mwyach gan gynllun HelpU Dŵr Cymru, dylech roi gwybod i Dŵr Cymru. Bydd eich help yn dod i ben ar ddiwedd cyfnod y bil presennol.