Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Gwneud cais am Gredyd Cynhwysol

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Coronafirws - cael galwad am eich cais

Pan fyddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn eich galw i brosesu'ch cais - gallent ddefnyddio rhif a ddaliwyd yn ôl, 0800 neu rif preifat. Os ydyn nhw'n bwriadu eich ffonio chi, byddant yn anfon neges atoch chi ar eich cyfrif ar-lein.

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn rhoi gwybod ichi mai nhw ydynt drwy grybwyll eich cod post a rhan o'ch rhif cyfrif Credyd Cynhwysol yn ystod yr alwad. Gofynnwch am y pethau hyn os nad ydyn nhw wedi eu crybwyll a rhowch y ffon i lawr os nad ydych chi'n eu cael - gallai fod yn alwad sgâm.

Os nad ydych chi wedi gwneud hynny yn barod, dylech chi wirio a ydych chi’n gymwys i gael Credyd Cynhwysol.

Os ydych chi’n derbyn budd-daliadau yn barod, dylech chi wirio a oes angen i chi symud i Gredyd Cynhwysol.

Fel arfer, bydd rhaid i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol ar-lein. Y peth cyntaf sydd angen i chi ei wneud yw creu cyfrif ar-lein – byddwch chi’n defnyddio’r cyfrif hwn i wneud cais a rheoli eich hawliad. Efallai y gallwch chi wneud cais dros y ffôn o dan amgylchiadau arbennig. Dysgwch fwy am gychwyn eich hawliad a chreu cyfrif ar-lein.

Yna, bydd angen i chi gwblhau 4 cam arall cyn y gallwch chi gael Credyd Cynhwysol. Bydd angen i chi:

  1. ateb cwestiynau am eich sefyllfa – hwn yw eich ‘rhestr i’w wneud’
  2. cadarnhau pwy ydych chi – gallwch chi wneud hyn ar-lein neu drwy fynd i wneud hyn yn bersonol
  3. trefnu apwyntiad yn eich Canolfan Waith
  4. mynd i’ch apwyntiad

Gofalwch eich bod chi’n cwblhau pob un o’r camau hyn – bydd angen i chi gwblhau pob un cyn y gallwch chi gael eich taliad Credyd Cynhwysol.

Coronafirws - os na allwch fynd i’r Ganolfan Waith

Byddwch yn gallu cwblhau'ch cais a chael taliad ymlaen llaw heb fynd i'r Ganolfan Waith.

Cyn i chi gwblhau eich ‘rhestr i’w wneud’

Yn eich cyfrif, gofynnir cwestiynau i chi am eich sefyllfa, unrhyw incwm rydych chi’n ei dderbyn a’ch treuliau. Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn defnyddio eich atebion i benderfynu faint o Gredyd Cynhwysol y dylech chi ei gael.

Y peth gorau i’w wneud yw casglu unrhyw fanylion neu ddogfennau am y pethau hyn ymlaen llaw – bydd hyn yn eich helpu chi i ateb y cwestiynau yn gyflymach.

Casglwch fanylion am:

  • eich rhent a’ch sefyllfa dai – byddai eich cytundeb tenantiaeth yn ddefnyddiol, os gallwch chi ddod o hyd iddo
  • eich incwm, o’ch gwaith neu bethau eraill fel cynllun pensiwn, ac unrhyw gynilion
  • eich darparwr gofal plant, os oes gennych chi un – er enghraifft, eu rhif cofrestru a’u manylion cyswllt
  • eich cyfrif banc – fel eich cod didoli a rhif y cyfrif

Gallwch chi argraffu ein rhestr wirio o bethau sydd eu hangen arnoch chi i wneud cais am Gredyd Cynhwysol. [120 kb]

Os nad oes gennych chi gyfrif banc

Bydd angen i chi agor un cyn y gallwch chi hawlio Credyd Cynhwysol – ni fyddwch chi’n gallu cyflwyno eich hawliad os na fyddwch chi’n rhoi manylion cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd.

Os ydych chi’n gwneud hawliad gyda phartner, dim ond un ohonoch chi sydd angen bod â chyfrif banc.

Gallwch chi ddefnyddio cyfrif banc ffrind neu aelod o’ch teulu ar gyfer eich taliad cyntaf, gyda’u caniatâd nhw. Bydd angen i chi fod â’ch cyfrif banc eich hun cyn eich ail daliad. Gallwch chi ddiweddaru eich manylion banc yn eich cyfrif ar-lein unwaith y byddwch chi wedi agor cyfrif banc.

Dysgwch fwy am agor cyfrif banc.

Gallwch chi ddarllen am ddewis cyfrif banc priodol ar wefan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol.

Os ydych chi wedi ceisio agor cyfrif a bod eich cais wedi’i wrthod, bydd angen i chi ddefnyddio’r Gwasanaeth Eithrio Taliadau. Bydd angen i chi esbonio pam na allwch chi agor cyfrif banc. Dysgwch sut mae hyn yn gweithio ar GOV.UK

Gallwch chi gael mwy o help i agor cyfrif banc yn eich Canolfan Cyngor ar Bopeth lleol.

Cwblhau eich ‘rhestr i’w wneud’

Gallwch chi fewngofnodi i’ch cyfrif Credyd Cynhwysol ar GOV.UK

Pan fyddwch chi’n mewngofnodi, byddwch chi’n gweld ‘rhestr i’w wneud’ gyda gwahanol gwestiynau sydd angen i chi eu hateb. Bydd angen i chi eu hateb nhw i gyd cyn y gallwch chi gyflwyno eich hawliad.

Mae’n well cwblhau eich rhestr i’w wneud cyn gynted ag y gallwch chi – os na fyddwch chi’n gwneud hynny, efallai y bydd eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf yn cael ei oedi. Nid oes rhaid i chi gwblhau’r cais cyfan ar unwaith.

Byddwch chi’n cael eich allgofnodi o’ch cyfrif os na fyddwch chi’n gwneud unrhyw beth am 30 munud. Bydd y cyfrif yn cofio unrhyw fanylion rydych chi wedi’u harbed hyd yma – efallai na fydd yn cofio unrhyw fanylion nad ydych chi wedi’u cyflwyno neu eu harbed eto.

Os ydych chi’n gwneud hawliad gyda’ch partner, efallai na fyddwch chi’n gallu ateb rhai o’r cwestiynau hyd nes y bydd eich cyfrifon wedi’u cysylltu. Dysgwch fwy am wneud hawliad ar y cyd.

Ateb cwestiynau am eich sefyllfa

Bydd gwahanol adrannau yn eich rhestr i’w wneud, gyda chwestiynau am:

  • eich cenedligrwydd
  • eich sefyllfa dai a phwy sy’n byw gyda chi
  • eich sefyllfa waith
  • eich incwm ac unrhyw gynilion sydd gennych chi
  • eich addysg a’ch hyfforddiant
  • eich iechyd
  • eich plant ac unrhyw un rydych chi’n gofalu amdanyn nhw
  • eich cyfrif banc

Gofalwch fod pob enw a rhif yn gywir. Pan fyddwch chi’n cofnodi manylion am unrhyw arian rydych chi’n ei dalu, bydd angen i chi ysgrifennu i lawr faint o geiniogau a daloch chi – er enghraifft, os mai £750 yw eich rhent, ysgrifennwch ‘£750.00’.

Os nad ydych chi’n siŵr o rywbeth, gwiriwch unrhyw ddogfennau neu negeseuon e-bost sydd gennych chi.

Unwaith y byddwch chi wedi cwblhau pob cwestiwn mewn adran, ni allwch chi olygu eich atebion hyd nes y byddwch chi wedi cwblhau’r holl adrannau eraill.

Os byddwch chi’n rhoi’r manylion anghywir, efallai y byddwch chi’n derbyn y swm anghywir neu efallai y bydd oedi i’ch taliad. Os byddwch chi’n derbyn swm rhy uchel, bydd rhaid i chi ei ad-dalu.

Eich sefyllfa dai

Gofynnir i chi am fanylion:

  • eich cyfeiriad a phryd symudoch chi yno
  • eich sefyllfa fyw ac a ydych chi’n rhentu eich cartref – er enghraifft, gan landlord preifat, y cyngor neu gymdeithas dai
  • faint o rent rydych chi’n ei dalu ac unrhyw ffioedd gwasanaeth, neu eich taliadau morgais os mai chi sydd piau eich cartref – y rhain yw ‘eich costau tai’
  • faint o ystafelloedd gwely sydd gennych chi – gofalwch fod hwn yr un fath â’r nifer ar eich cytundeb tenantiaeth neu rent 
  • pwy sydd ar y cytundeb tenantiaeth a faint rydych chi i gyd yn ei dalu – os yw’n denantiaeth ar y cyd
  • cyfeiriad a rhif ffôn eich landlord os ydych chi’n rhentu

Y peth gorau i’w wneud yw gwirio eich cytundeb tenantiaeth os nad ydych chi’n siŵr o unrhyw fanylion. Os nad oes gennych chi un, edrychwch am unrhyw ddogfennau neu negeseuon e-bost sy’n cadarnhau manylion am eich tenantiaeth – er enghraifft, datganiad rhent.

Os ydych chi’n rhentu gan y cyngor neu gan gymdeithas dai, gallwch chi gysylltu â’u hadran gwasanaethau cwsmeriaid. Byddan nhw’n gallu rhoi manylion eich sefyllfa dai a’ch rhent i chi.

Eich ‘costau tai’ a’ch sefyllfa fyw

Bydd angen i chi sôn am unrhyw ‘gostau tai’ rydych chi’n eu talu – mae hyn yn cynnwys unrhyw daliadau rhent neu forgais ac unrhyw ‘ffioedd gwasanaeth’.

Ystyr ‘ffioedd gwasanaeth’ yw unrhyw arian rydych chi’n ei dalu am waith cynnal a chadw mewn mannau a rennir o gwmpas eich cartref neu eich gardd. Er enghraifft, os ydych chi’n byw mewn bloc o fflatiau gyda choridorau a rennir, efallai eich bod yn talu i rywun lanhau’r coridorau hyn. Gwiriwch eich cytundeb tenantiaeth i weld a ydych chi’n talu ffioedd gwasanaeth.

Os ydych chi’n cael unrhyw help gyda’ch rhent, bydd angen i chi nodi cyfanswm eich rhent – mae hyn yn cynnwys unrhyw arian rydych chi’n ei gael i helpu gyda’ch rhent. Er enghraifft, os ydych chi’n cael £200 o Fudd-dal Tai y mis a’ch bod chi’n talu £400 y mis mewn rhent, bydd angen i chi nodi mai cyfanswm y rhent yw £600.

Bydd angen i chi ddweud hefyd os oes gennych chi unrhyw wythnosau di-rent. Efallai eich bod chi’n cael wythnosau di-rent os ydych chi’n rhentu gan y cyngor neu gan gymdeithas dai.

Gofynnir i chi a oes unrhyw un arall wedi’i enwi ar y cytundeb tenantiaeth. Os felly, bydd angen i chi wybod beth yw cyfanswm eich rhent – hynny yw, y rhent cyfunol rydych chi’n ei dalu am y cartref. 

Manylion eich landlord

Gofynnir i chi am fanylion eich landlord er mwyn iddo gadarnhau faint o rent rydych chi’n ei dalu. Os ydych chi’n rhentu gan y cyngor neu gan gymdeithas dai, efallai y bydd y rhain yn ymddangos yn awtomatig.

Does dim rhaid i chi nodi cyfeiriad e-bost eich landlord os ydych chi’n nodi ei gyfeiriad a’i rif ffôn.

Os nad ydych chi’n siŵr o fanylion eich landlord, gallech chi roi eich cyfeiriad chi a diweddaru’r manylion yn ddiweddarach. Dylech chi ddiweddaru’r adran hon cyn gynted â phosibl – os na fyddwch chi’n ei diweddaru, efallai y bydd rhaid i chi dalu rhywfaint o arian fel cosb.

Y Dreth Gyngor

Gofynnir i chi:

  • a yw eich enw ar fil y Dreth Gyngor
  • a ydych chi wedi gwneud cais am Ostyngiadau’r Dreth Gyngor

Os byddwch chi’n sôn eich bod chi’n cael Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yn barod neu eich bod chi’n bwriadu gwneud cais amdano, gall yr Adran Gwaith a Phensiynau roi gwybod i’ch cyngor eich bod chi’n gwneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Eich iechyd

Gofynnir i chi a oes gennych chi ‘anabledd, salwch neu gyflwr iechyd parhaus’ sy’n ei gwneud hi’n anodd i chi weithio neu ddod o hyd i waith.

Y peth gorau i’w wneud yw cynnwys unrhyw gyflyrau iechyd sy’n golygu eich bod chi wedi cael amser o’r gwaith – gan gynnwys cyflwr iechyd meddwl, fel iselder neu gorbryder. Does dim angen i chi gynnwys unrhyw beth nad yw’n effeithio ar eich gallu i weithio.

Gofynnir i chi hefyd:

  • pryd weithioch chi ddiwethaf, os nad ydych chi’n gweithio rhagor – gofynnwch i aelod o’ch teulu neu ffrind os nad ydych chi’n siŵr
  • a ydych chi wedi bod yn yr ysbyty yn ddiweddar neu a ydych chi’n cael triniaeth feddygol – bydd hyn yn pennu pryd na allwch chi fynd i’ch apwyntiad Canolfan Waith 

Pryd mae angen ‘nodyn ffitrwydd’

Bydd angen i’ch meddyg gadarnhau unrhyw gyflwr iechyd sy’n effeithio ar eich gallu i weithio gyda ‘nodyn ffitrwydd’ – efallai y byddwch chi’n galw hwn yn nodyn meddyg. Mae angen i chi ddarparu nodyn ffitrwydd:

  • os ydych chi’n sâl am fwy na 7 diwrnod
  • os oes gennych chi gyflwr iechyd tymor hir

Os na fydd eich meddyg yn cadarnhau eich cyflwr gyda nodyn ffitrwydd, bydd angen i chi ddileu’r cyflwr o’ch cyfrif Credyd Cynhwysol.

Cael ‘nodyn ffitrwydd’

Bydd angen i nodyn ffitrwydd nodi dyddiad cychwyn a dyddiad dod i ben, a rhaid iddo gael ei stampio a’i lofnodi gan eich meddyg.

Os oes gennych chi nodyn ffitrwydd yn barod, gallwch chi gofnodi’r manylion ar unwaith.

Os nad oes gennych chi un eto, bydd gennych chi 7 diwrnod o’r dyddiad rydych chi’n cyflwyno eich hawliad i gael nodyn ffitrwydd a rhoi’r manylion yn eich cyfrif.

Dylech chi wneud apwyntiad gyda’ch meddyg teulu cyn gynted â phosibl. Gallwch chi hefyd gael nodyn ffitrwydd yn yr ysbyty os ydych chi’n cael eich trin yno. Does dim angen i chi dalu am nodyn salwch os ydych chi i ffwrdd o’r gwaith am fwy na 7 diwrnod.

Ar ôl i chi gofnodi’r manylion am eich nodyn ffitrwydd, bydd angen i chi ysgrifennu manylion eich meddyg neu eich canolfan feddygol. Yna, gofynnir i chi a oes modd i rywun gysylltu â’ch meddyg i drafod eich iechyd. Y peth gorau i’w wneud yw cytuno – os byddwch chi’n gwrthod, efallai y bydd eich taliad cyntaf yn cael ei oedi.

Mae angen i chi fynd â’r copi papur o’ch nodyn ffitrwydd gyda chi i’ch cyfweliad Canolfan Waith.

Os oes gennych chi gyflwr iechyd tymor hir neu os ydych chi’n sâl am fwy na 4 wythnos, efallai y bydd angen i chi gael asesiad meddygol. Dysgwch fwy am gael Credyd Cynhwysol os ydych chi’n sâl neu’n anabl.

Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd cael ‘nodyn ffitrwydd’

Os ydych chi wedi gwneud apwyntiad Credyd Cynhwysol yn barod ond eich bod chi’n ei chael hi’n anodd cael apwyntiad gyda’ch meddyg, dylech chi roi gwybod i’r Ganolfan Waith.

Gallwch chi anfon neges trwy eich cyfrif Credyd Cynhwysol. Efallai y byddant yn gallu newid dyddiad eich apwyntiad Canolfan Waith. Dysgwch sut i anfon negeseuon trwy eich cyfrif.

Eich gwaith, incwm a chynilion

Gofynnir i chi a ydych chi’n gweithio ac a ydych chi’n hunangyflogedig. Gofynnir cwestiynau ychwanegol i chi ynglŷn â’ch sefyllfa waith yn ystod eich cyfweliad yn y Ganolfan Waith.

Eich incwm a’ch enillion

Ysgrifennwch i lawr a oes gennych chi unrhyw incwm – gallai hyn fod o waith neu o bethau eraill, fel pensiwn neu gynllun yswiriant. Does dim angen i chi gynnwys unrhyw arian rydych chi’n ei gael o fudd-daliadau. 

Mae angen i chi gynnwys unrhyw dâl rydych chi’n ei gael gan eich cyflogwr am unrhyw absenoldeb rydych chi wedi’i gymryd neu’n ei gymryd ar hyn o bryd – er enghraifft:

  • tâl salwch
  • tâl gwyliau
  • tâl mamolaeth

Gwiriwch eich cyfriflenni banc neu cysylltwch â’ch cyflogwr i weld faint rydych chi’n ei gael. 

Eich cynilion a’ch buddsoddiadau

Gofynnir i chi am unrhyw gynilion a chyfalaf neu fuddsoddiadau eraill sydd gennych chi – er enghraifft, unrhyw gyfranddaliadau sydd gennych chi neu os ydych chi’n berchen ar eiddo nad ydych chi’n byw ynddo. Gallai hyn gynnwys unrhyw daliadau untro mawr rydych chi wedi’u derbyn, fel tâl dileu swydd.

Os oes gennych chi dros £16,000 mewn cynilion, ni fyddwch chi’n gallu hawlio Credyd Cynhwysol. Gwiriwch pwy sy’n gymwys i gael Credyd Cynhwysol.

Eich costau gofal plant

Gallwch chi hawlio hyd at 85% o’ch costau gofal plant:

  • os ydych chi’n gweithio
  • os ydych chi wedi gweithio yn y ddau fis diwethaf
  • os ydych chi’n mynd i gychwyn gweithio yn y ddau fis nesaf

Dim ond costau gofal plant rydych chi wedi’u talu yn barod y gallwch eu hawlio – ni fyddwch chi’n derbyn unrhyw arian am gostau yn y dyfodol.

Eich darparwr gofal plant

Bydd angen i chi roi manylion eich darparwr a’ch costau. Dylai hyn gynnwys:

  • ei gyfeiriad a’i rif ffôn
  • ei rif cofrestru
  • faint rydych chi’n ei dalu a phryd
  • pa ddyddiadau mae’r taliadau yn eu cwmpasu
  • pa blentyn neu blant y mae’r darparwr hwn yn gofalu amdanyn nhw

Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o’ch costau gofal plant o fewn mis i gyflwyno eich hawliad. Rhaid iddi ddweud ‘wedi talu’ a bod ar bapur pennawd – sef papur sydd ag enw’r person neu’r sefydliad arno.

Gallwch chi lanlwytho tystiolaeth o faint rydych chi wedi’i dalu i mewn i’ch cyfrif. Gall hwn fod yn ffotograff, yn sgan neu’n sgrinlun o’ch anfoneb. Gallwch chi fynd â’r dystiolaeth hon gyda chi i’ch apwyntiad Canolfan Waith hefyd.

Os na fyddwch chi’n darparu tystiolaeth, ni fyddwch chi’n cael unrhyw arian tuag at eich costau gofal plant.

Os ydych chi angen unrhyw ddogfennau, cysylltwch â’ch darparwr gofal plant.

Ar ôl i chi gwblhau eich 'rhestr i’w wneud'

Bydd angen i chi gytuno bod yr holl wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi yn gywir – bydd angen i chi dicio ‘Ydy’ ar gyfer pob adran. Mae hyn i gyd yn rhan o’ch ‘datganiad’. Os byddwch chi’n ticio ‘Nac ydy’, byddwch chi’n gallu diweddaru’r wybodaeth cyn i chi gyflwyno eich hawliad.

Gwiriwch yr hyn rydych chi wedi’i ysgrifennu a gofalwch fod yr holl fanylion yn gywir.

Os bydd eich sefyllfa’n newid, dylech chi ddiweddaru’r wybodaeth ar eich cyfrif cyn gynted â phosibl. Efallai y bydd eich Credyd Cynhwysol yn cael ei atal neu ei leihau os na fydd eich manylion yn gywir.

Efallai y bydd angen i chi ateb cwestiynau ychwanegol ar ôl i chi gyflwyno eich hawliad – yn dibynnu ar eich sefyllfa. Er enghraifft, os oes gennych chi gyflwr iechyd a dydych chi ddim wedi cael nodyn ffitrwydd gan eich meddyg eto, bydd angen i chi ddarparu’r wybodaeth pan fyddwch chi wedi cael y nodyn ffitrwydd.

Cadarnhau pwy ydych chi

Bydd angen i chi gadarnhau pwy ydych chi gan ddefnyddio system ar-lein y llywodraeth, sef ‘Verify’.

Dim ond os oes gennych chi fath penodol o gerdyn adnabod y gallwch ei defnyddio – fel pasbort y DU neu drwydded yrru ddilys y DU neu drwydded yrru dros dro ddilys y DU. Gallwch chi ddewis rhwng 5 gwahanol gwmni i gadarnhau pwy ydych chi.

Os na fydd hyn yn gweithio, gallwch chi gadarnhau pwy ydych chi drwy fynd i’r Ganolfan Waith. Yn eich cyfrif, o dan ‘Verify your identity’, cliciwch ar ‘I can’t do this online’. Dysgwch fwy am gadarnhau pwy ydych chi mewn apwyntiad.

Coronafirws - cadarnhau’ch hunaniaeth

Mae'r llywodraeth wedi canslo pob cyfweliad wyneb yn wyneb yn y Ganolfan Waith. Os na allwch wirio'ch hunaniaeth ar-lein, ffoniwch y llinell gymorth Credyd Cynhwysol.

Llinell gymorth Credyd Cynhwysol
Ffôn: 0800 328 5644
Ffôn testun: 0800 328 1344
Ffôn (Cymraeg): 0800 012 1888
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm

Mae galwadau i'r rhifau hyn yn rhad ac am ddim.

Os na allwch fynd drwodd i unrhyw un ar y ffôn, gadewch nodyn ar eich cyfrif ar-lein. Esboniwch na allech chi siarad ag unrhyw un a gofynnwch am gael eich galw yn ôl.

Camau nesaf

Mae angen i chi gwblhau ambell gam arall cyn i chi orffen eich hawliad.
Mae angen i chi:

  1. drefnu apwyntiad yn y Ganolfan Waith
  2. cwblhau unrhyw dasgau newydd ar eich ‘rhestr i’w wneud’ – bydd angen i chi wneud hyn cyn mynd i’r Ganolfan Waith
  3. mynd i’ch cyfweliad yn y Ganolfan Waith

Coronafirws – cyfweliadau

Mae'r llywodraeth wedi canslo pob cyfweliad wyneb yn wyneb yn y Ganolfan Waith. Nid oes angen cyfweliad wyneb yn wyneb arnoch i hawlio Credyd Cynhwysol.

Efallai y bydd y Ganolfan Waith yn dal i ofyn am gael siarad â chi dros y ffôn.

Ni fyddwch chi wedi cwblhau eich cais hyd nes y byddwch chi wedi bod yn eich apwyntiad yn y Ganolfan Waith. Bydd angen i chi gasglu tystiolaeth ac ateb rhai cwestiynau yn eich cyfweliad, felly cofiwch baratoi. Dysgwch fwy am baratoi ar gyfer eich cyfweliad Credyd Cynhwysol.

Os ydych chi angen help gyda’ch cais Credyd Cynhwysol, gallwch chi siarad â chynghorydd.

Arian a budd-daliadau eraill y gallwch chi eu cael

Bydd hi’n cymryd 5 wythnos i chi gael eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf, ond gallwch chi ofyn am gael rhywfaint o arian yn gynt. 

Efallai y gallwch chi gael arian o fudd-daliadau eraill hefyd – er enghraifft, os ydych chi’n ofalwr neu os oes gennych chi gyflwr iechyd tymor hir.

Gallwch chi ddefnyddio’r teclynnau cyfrifo budd-daliadau am ddim Turn2us neu Entitledto i wirio pa fudd-daliadau y gallwch chi eu cael. Bydd angen i chi fod yn ddinesydd Prydeinig neu Wyddelig i ddefnyddio’r teclyn.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.